Her a Hawl Cyfieithu Dramau: Saunders Lewis, Samuel Beckett a MoliereAuthor :
Paperback
Published : Saturday 15 July 2017
You may also like ...
by
Paperback
15 Jul 2017
>>
€12.04
Extended stock - Dispatch 5-7 days
Description
Trwy ddadansoddi cyfieithiadau Cymraeg Saunders Lewis o ddramau Ffrangeg Samuel Beckett a Moliere, datgelir pwysigrwydd cyfieithu i'r ddrama Gymraeg a phwysigrwydd cyfieithu yn benodol i Saunders Lewis.
Dyma'r astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri'r ddrama, sef Saunders Lewis. Mae ei gyfieithiadau o weithiau'r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Moliere yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na fel cyfieithydd. Ystyrir yma hanes cyfieithu ac addasu yn y theatr Gymraeg a'r modd y maent wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg; edrychir hefyd ar bwysigrwydd Ewrop, a Ffrainc yn benodol, i Saunders ac arwyddocad hyn fel sail i'w waith cyfieithu. Trafodir y modd y mae ei ddulliau cyfieithu yn adlewyrchu ei ddatblygiadau personol a phroffesiynol dros gyfnod o ddeugain mlynedd, a beth yw rol y cyfieithydd ym myd y theatr - pa hawl sydd gan gyfieithydd i addasu darn llenyddol, er enghraifft, a ble mae gosod ffin rhwng cyfieithu, addasu a chreu testun newydd, ac i ba graddau felly y mae i'r cyfieithiad newydd werth celfyddydol gwreiddiol ynddi ei hun.
Reviews